Rhieni

Cynnig cyfleoedd cerdd i blant Conwy.

Pecynnau

Pecynnau Amrywiol

Rydym yn falch o gynnig dewis o 3 pecyn gwersi cerdd yn holl ysgolion Sir Conwy:

Unawd 15

Unawd 20

Unawd 30

Mae pob pecyn ar gyfer gwersi cerdd unigol, gyda’ch plentyn yn cael gwersi un-i-un gydag un o’n tiwtoriaid cerdd am 15, 20 neu 30 munud o hyd – yn dibynnu ar eich dewis o becyn.

Codir tâl am bob pecyn mewn bloc o 10 gwers, gyda phecyn Unawd 15 yn costio £9 y wers, pecyn Unawd 20 yn costio £12 y wers, a’n pecyn Unawd 30 yn costio £18 y wers.

Mae gennym gynlluniau talu hyblyg ar gael pe dymunech – Cysylltwch â’n swyddfa i drafod cynlluniau unigol.

UNIONGYRCHOL

Llogi’n Uniongyrchol efo Ni

Mewn rhai ysgolion, rydym yn gwneud yr holl weinyddu gwersi cerdd ar eu rhan. Os oes gan eich plentyn ddiddordeb mewn gwersi cerdd ac mewn ysgol y gelwir gennym yn ysgol Anfonebu Uniongyrchol, dyma’r lle cywir i chi.

Mae gennym system benodol yn ei lle o’r enw Opus. Yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gwbl ddwyieithog, dyma lle gallwch ganfod yn union pa becynnau sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, yn ogystal â llogi gwersi cerdd, derbyn a thalu anfonebau, a rheoli’r cyfathrebu gyda ni.

Rydym hefyd yn cynnig mwy na dim ond gwersi cerdd. Rydym yn cynnal nifer o wasanaethau gwahanol, fel ensemblau wythnosol, ysgolion haf blynyddol, cyrsiau lles adeg hanner tymor, ymweliadau arholiadau cerdd, a llawer mwy.

System Opus

Mae Opus yn darparu un safle-am-bopeth lle gallwch logi gwersi cerdd mewn unrhyw ysgol restredig, yn ogystal â lle i logi aelodaeth ensembl, neu wasanaethau ychwanegol fel lle ar gyrsiau haf, ymweliad arholiad ac ati. Gall Opus ymdrin â mwy na llogi’n unig; mae’n rhoi llwyfan 24 awr i chi weld a thalu anfonebau, gweld negeseuon gennym am wersi cerdd eu plant, a rheoli pob agwedd arall o’n gwasanaethau yn rhwydd.

}
Rheoli gwasanaethau unrhyw bryd
Gweld a thalu anfonebau ar-lein
i
Pob gwybodaeth mewn un man

HOLL RIENI

Beth i’w Ddisgwyl

Cyswllt Canolog

Ein swyddfa yw eich man cyswllt canolog, yn darparu rhywun y gallwch ei g/alw neu dderbyn e-bost gydag unrhyw ymholiad am wersi cerdd neu gynnydd eich plentyn.

R

Sicrwydd Cydymffurfio

Rhaid i’n holl diwtoriaid gael tystysgrifau GDG dilys a dilyn hyfforddiant diogelu a gofal plant cyson. Dyma ddarparu sicrwydd i chi fod eich disgyblion mewn dwylo diogel.

Mynediad at Offerynnau

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, ac felly’n gyfrifol am yr holl offerynnau sy’n eiddo i’r sir. Byddai unrhyw un o’ch disgyblion sy’n derbyn gwersi gennym ni yn cael mynediad at offeryn cerdd o gyflenwad y sir i’w ddefnyddio gartref er mwyn ymarfer.

Mynediad at Ensemblau

Rydym yn cynnal ystod eang o ensemblau a chorau, yn ystod oriau ysgol ac ar ôl ysgol. Rydym yn croesawu pob disgybl i’n ensemblau, lle bynnag y maent yn cael eu gwersi cerdd – gennym ni neu gan eraill.

Mynediad at Wasanaethau Eraill

Rydym yn cynnig mwy na gwersi cerdd yn unig. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i blant a phobl ifanc ledled gogledd Cymru, yn cynnwys ysgolion haf, cyrsiau lles, a gweithdai cerdd o safon uwch i enwi rhai’n unig.

Conwy Music Co-operative
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.